Uchel seinied dynol-ryw -
"Bendigedig fyddo Duw";
O'i anfeidrol ras ei hun
Trefnodd iachawdwriaeth dyn.
Cyn i bechod roddi ei droed
Ar lywodraeth Duw erioed,
Gwelodd cariad dwyfol Dri
Ddyfnder ein trueni ni.
Ymgynhyrfai'r meddwl mawr
Uwch trueni
teulu'r llawr,
A chynlluniodd rasol drefn
I'n dyrchafu ni drachefn.
Trefn a holl ddoethiueb Duw
Yn dysgleirio ynddi yw;
Ei orchestwaith bena'i gyd
Ydoedd ymgeleddu'r byd.
Rhaid oedd i Eneiniog nen
Farw, i ddwyn y gwaith i ben;
Ffordd ein iachawdwriaeth wnaed
Yn agored trwy ei waed.
Son am goncwest Calfari
Ledo dros ein daear ni;
A chydseinied dynolryw -
"Bendigedig fyddo Duw"!
Robert M Jones (Meigant) 1851-99
Tonau [7777]: |
Loudly let human-kind sound -
"Blessed be God";
From his own immeasurable grace
He arranged the salvation of man.
Before sin put its foot
Ever on the government of God,
The love of divine Three saw
The depth of our wretchedness.
The great thought stirred itself
Above the wretchedness
of the family of the earth below,
And planned a gracious scheme
To raise us up again.
A scheme, within which the whole
Wisdom of God is shining, it is;
The chief of all his masterpiece
Was nurturing the world.
It was necessary for the Anointed of heaven
To die, to bring the work to completion;
The way of our salvation was made
Open through his blood.
May mention of the conquest of Calvary
Spread across our earth;
And let humankind sound together -
"Blessed be God"!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|